Cymraeg
Mae ein menter ymgysylltu yn annog pobl i gysylltu, mwynhau a gofalu am leoedd gwyllt.
Mae'n gynllun gwobrwyo amgylcheddol ar gyfer pobl o bob oed a chefndir – grwpiau, teuluoedd ac unigolion.
COVID-19
Mae Ymddiriedolaeth John Muir yn cydnabod cysylltiad pobl at ardaloedd gwyllt sydd yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles, rydym yn parhau i gefnogi gweithgarwch Gwobr John Muir sydd yn gallu digwydd o fewn canllawiau Coronavirus llywodraeth y DU.
Cymryd Rhan
Cliciwch YmaI gyflawni Gwobr John Muir, rhaid i bob cyfranogwr gyrraedd y pedair her

Darganfod
Gall hyn fod ar dir yr ysgol neu ganolfan, parc lleol, traeth, coedwig, afon,mynydd neu barc cenedlaethol.

Archwilio
Gwnewch bethau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Profwch, mwynhewch a dewch i wybod mwy am eich ardaloedd gwyllt.
_listing.jpg?1438610166)
Cadwraeth
Gwnewch rhywbeth ymarferol gan gymryd cyfrifoldeb.
_listing.jpg?1438610086)
Rhannu
Gadewch i eraill wybod, yr hyn a gyflawnwyd ac a ddysgwyd.
Gwobr John Muir - Beth yw Beth?
Eisiau ysbrydoli eich grwp i wneud Gwobr John Muir? Eisiau dysgu mwy am y dyn ei hun, a sut gall eich grwp brofi, mwynhau a gofalu am ardaloedd gwyllt? Gwyliwch ein fideo newydd er mwyn darganfod mwy am y dyn anturus a diddorol hwn, gan weithio ar eich Gwobr John Muir eich hun. Wel, am beth ydych chi yn aros amdano….
Mae'n agored i bawb sy'n gallu deall a bodloni meini prawf y wobr. Mae'n ddelfrydol ar gyfer y cyfranogwyr hynny sydd ym mlwyddyn 4 addysg gynradd ac uwch. Mae croeso i oedolion gymryd rhan hefyd – ar eu pennau eu hunain, mewn grwpiau, neu ochr yn ochr â chyfranogwyr iau. Rydym wedi creu gwobr deuluol sy'n croesawu teuluoedd i gymryd rhan fel uned deuluol, gall gynnwys pob oedran a gallu.

Ddim yn siŵr pa mor addas ydych chi neu'ch grŵp, neu unrhyw gwestiynau eraill?
Canllaw Adnoddau
Cliciwch yma am wybodeth ynglyn a llythrennedd a natur, a syniadau a llyfryddiaeth i’ch helpu i greu sesiynnau sy’n cyfuno y ddau beth.
Dangos Effaith
Rhoi rhywbeth yn ôl
Gweld sut y gallwch chi roi rhywbeth yn ôl i Ymddiriedolaeth John Muir