Skip to Content

Cwestiynau Cyffredin

Ddim yn siŵr pa mor addas ydych chi neu'ch grŵp, neu unrhyw gwestiynau eraill?

Group in field - narrow

A oes maes llafur i'w ddilyn neu weithgareddau penodol y mae angen i ni eu cwblhau?

Nid oes gan wobr John Muir raglen neu faes llafur penodol i'w ddilyn. Mae'r wobr yn seiliedig ar bedair her – darganfod, archwilio, cadw a rhannu ac mae'r gweithgareddau rydych yn eu gwneud i ymgysylltu â'r pedair her fyny i chi. Gadewch i ni wybod beth rydych chi'n ei gynllunio ar gyfer eich gwobr drwy anfon ffurflen gais atom, byddwn yn trafod hyn gyda chi, yn rhannu syniadau ac unwaith y bydd wedi'i gytuno a'i gofrestru rydych yn barod i ddechrau arni!

Ydy’r  wobr yn addas ar gyfer fy ngrŵp?

Mae'r wobr yn addas ar gyfer cyfranogwyr ym  mlwyddyn 4 (8-9 oed) ac uwch.  Rydym yn annog oedolion i gymryd rhan hefyd.

Faint o amser mae'n ei gymryd?

Gweler ein gwybodaeth uchod am fanylion y meini prawf a'r ymrwymiadau amser.

Faint maen gostio i gymryd rhan mewn gwobr John Muir?

Mae am ddim, gan gynnwys y tystysgrifau. I gefnogi’r wobr ac i’w gadw yn rhad ac am ddim, ystyriwch, os gwelwch yn dda, roi rhywbeth yn ol trwy roi rhodd i’n Cronfa Gweithredu Gwyllt neu godi arian i Ymddiredolaeth John Muir fel rhan o weithgareddau eich gwobr. Mae gennym nifer o syniadau i’ch rhoi ar ben ffordd.

Faint mae'n costio?

Mae Ymddiriedolaeth John Muir yn falch o'r ffaith fod y wobr wastad wedi bod ar gael yn rhad ac am ddim, gan gynnwys y tystysgrifau.  Fodd bynnag rydym yn annog darparwyr gwobrau i roi rhywbeth yn ôl.

Oes angen i mi fod wedi cwblhau unrhyw hyfforddiant i ddechrau defnyddio Gwobr John Muir?

Nid oes angen i chi fod wedi mynychu unrhyw hyfforddiant i ddechrau defnyddio Gwobr John Muir. Mae popeth y mae angen i chi ei wybod ar gael ar ein gwefan.  Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy'n boblogaidd fel ffordd o ganfod mwy am ethos Gwobr John Muir a'r agweddau ymarferol wrth ei ddarparu. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a info@johnmuiraward.org

Sut mae gofyn am dystysgrifau?

Cwblhewch ffurflen gais am dystysgrif – a'i hanfon i info@johnmuiraward.org – nid oes rhaid i chi gyflwyno unrhyw dystiolaeth, fodd bynnag gall aelod o'n tîm fod mewn cysylltiad i drafod eich gweithgaredd. Rydym yn argymell eich bod yn caniatáu o leiaf 10 diwrnod gwaith i dderbyn eich tystysgrifau.

Darperir tystysgrifau yn rhad ac am ddim, ond maent yn costio tua £1 i ni i’w cynhyrchu a’u postio. Ystyriwch, os gwelwch yn dda, roi rhywbeth yn ol trwy roi rhodd i’n Cronfa Gweithredu Gwyllt er mwyn cyfrannu at gost eich tystysgrif ac i gefnogi Gwobr John Muir.