Skip to Content

Rhoi rhywbeth yn ôl

Ydych chi wedi meddwl am godi arian ar gyfer ardaloedd gwyllt fel rhan o'ch Gwobr John Muir?

Mae'r ardaloedd gwyllt rydyn ni'n eu caru mewn perygl. Drwy godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth John Muir byddwch yn helpu i ddiogelu a gwarchod ardaloedd gwyllt ledled y DU. Gall ardaloedd gwyllt gyfrannu yn sylweddol i dargedau o fewn y frwydyr yn erbyn newid hinsawdd Maent yn hanfodol er lles pobl ac yn darparu cartref hanfodol i fywyd gwyllt.

Gallai'r gweithgareddau codi arian canlynol i gyd gyfrif tuag at Wobr John Muir, neu beth am feddwl am eich syniadau eich hun?

    Fundraise by climbing Nevis indoors

    Dringo Ben Nevis yn rhithiol

    Oeddech chi'n gwybod bod Ymddiriedolaeth John Muir yn gofalu am Ben Nevis, mynydd uchaf y DU? Mae Ben Nevis yn 1,345m (1.3km) o uchder - beth allech chi ei wneud dros bellter o 1.3km? Nofio, sglefrfyrddio, canu neu ddawnsio? Gosodwch eich her Ben Nevis eich hunain!

    Fundraise by getting wet

    Ewch yn wyllt yn y dwr

    Oeddech chi'n gwybod bod gennym goedwig law yn y DU? Mae Ymddiriedolaeth John Muir yn diogelu coedwig law'r Iwerydd ar draws pedwar o'n heiddo yn yr Alban. Allech chi drefnu eich her codi arian dŵr eich hun i gefnogi'r cynefin prin hwn? Cynnal daith gerdded noddedig yn y glaw, ewch yn fwdlyd, nofio, canŵio, bwrdd padlo neu hyd yn oed gymryd cawodydd oer am wythnos!

    Fundraise by guiding a walk 2

    Arwain y ffordd

    Cynnig teithiau tywys o ardal wyllt i ffrindiau a theulu. Trefnwch weithgareddau hwyliog ar hyd y llwybr i helpu eich gwesteion i ddarganfod natur. Beth am greu eich llyfrynnau cerdded eich hun neu gwybidaeth adnabod rhywiogaethau gwahanol ym myd natur? Peidiwch ag anghofio gofyn am roddion ar y diwedd. Os ydych yn gwneud Gwobr John Muir byddai'r gweithgaredd hwn yn berffaith ar gyfer yr her rhannu.

    Fundraise by foraging and baking

    Rhannu blas ar natur

    Mae popeth yn blasu'n well y tu allan. Gwerthu tocynnau i wledd bicnic a chreu argraff ar eich gwesteion gyda blas o natur. Beth am ddiod ysgawen blasus, cacen foron neu bastai mwyar duon? Peidiwch â gadael i'r oerfel eich atal, dyma pam mae siocled poeth a blancedi yn bodoli!

    Fundraise by getting creative

    Byddwch yn greadigol

    Mwynhewch fod yn greadigol - gwnewch neu ailgychwch eich cynnyrch eich hun i'w gwerthu. O borthwyr adar i ddillad wedi'u uwchgylchu neu anrhegion papur wedi'u hailgylchu, mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd. Gallech hyd yn oed sefydlu eich oriel gelf awyr agored eich hun.

    fundraise night time nature

    Noson o dan y sêr

    Ydych chi'n ddigon dewr i aros yn y goedwig ar ôl iddi dywyllu? Trefnwch gwsg noddedig tu allan a phrofi noson gyda natur.

Awgrymiadau

Dechrau arni: Mae nawdd ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Dewiswch pa lwyfan yr hoffech ei ddefnyddio - rydym yn argymell Just Giving, Virgin Money Giving, a Givey. Dilynwch y cyfarwyddiadau i greu eich tudalen codi arian a rhannwch y ddolen drwy e-bost, Facebook, Twitter ac Instagram. Cofiwch ddweud wrth bawb pam eich bod yn codi arian ar ran Ymddiriedolaeth John Muir a sut y bydd eu rhodd yn helpu ardaloedd gwyllt ledled y DU.

Cadwch yn ddiogel ac yn gyfreithlon: Cofiwch ofyn am ganiatâd gan y tirfeddiannwr a dilynwch y Cod Cefn Gwlad neu God Mynediad Awyr Agored yr Alban bob amser. Wrth drefnu digwyddiad codi arian rydych yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn ddiogel i chi'ch hun ac i eraill, felly gwnewch asesiad risg.

Casglu nawdd

Oddi ar y lein: Lawrlwythwch ffurflen noddi. Anfon rhoddion drwy siec at: John Muir, Tower House, Station Road, Pitlochry, PH16 5AN

Ar-lein: drwy ein tudalen nawdd. Cofiwch ddefnyddio ein ffurflen rhoddion i roi gwybod i ni pwy ydych chi a beth wnaethoch chi i godi'r arian fel y gallwn gysylltu i ddweud diolch!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os byddai'n well gennych gyfrannu drwy BACS, anfonwch e-bost at ein tîm codi arian neu ffoniwch 01796 484 979.

Trailblazer Andrew Macdonald

Cronfa Gweithredu Gwyllt

Helpwch ni i gysylltu pobl âg ardaloedd gwyllt gan ysbrydoli gweithredu cadarnhaol ar gyfer natur

Rhoi