Skip to Content

Cymryd Rhan

Mae Gwobr John Muir yn annog pobl o bob cefndir i gysylltu â lleoedd gwyllt, eu mwynhau a gofalu amdanynt trwy gynllun strwythuredig ond y gellir ei addasu

Mae'n agored i bawb sy'n gallu deall a bodloni meini prawf y wobr. Mae'n ddelfrydol ar gyfer y cyfranogwyr hynny sydd  ym mlwyddyn 4 addysg gynradd ac uwch. Mae croeso i oedolion gymryd rhan hefyd – ar eu pennau eu hunain, mewn grwpiau, neu ochr yn ochr â chyfranogwyr iau. Rydym wedi creu gwobr deuluol sy'n croesawu  teuluoedd i gymryd rhan fel uned deuluol, gall gynnwys pob oedran a gallu.

Girls in Trees - Kat Martin - narrow

Meini Prawf y Wobr

I gyflawni Gwobr John Muir, rhaid i bob cyfranogwr:

  • Cyrraedd y pedair her - Darganfod, Archwilio, Cadwraeth, Rhannu
  • Cwblhau'r ymrwymiad amser gofynnol
  • Dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad
  • Bod ag ymwybyddiaeth o John Muir 
  • Deall beth yw Gwobr John Muir a pham maent yn cymryd rhan

Lefelau Gwobr John Muir

Mae pedair her i bob lefel sef -darganfod, archwilio, cadwraeth a  rhannu, gyda chyfrifoldeb a pherchnogaeth gynyddol wrth fynd fyny’r lefelau gwahanol.

Certificates new graphic

  • Gwobr Darganfod: 4 diwrnod (neu 25+ awr) lleiafswm ymrwymiad amser
  • Gwobr Archwilio: 8 diwrnod (cyfwerth â 50 awr) lleiafswm ymrwymiad amser
  • Gwobr Cadwraeth: 20 diwrnod (neu cyfwerth a 125 awr) lleiafswm ymrwymiad amser, dros gyfnod o leiaf 6 mis
    Filling out form

    Ffurflen Gais

    Gadewch i ni wybod beth rydych chi'n ei gynllunio ar gyfer eich gwobr drwy anfon ffurflen gais atom, byddwn yn trafod hyn gyda chi, yn rhannu syniadau ac unwaith y bydd wedi'i gytuno a'i gofrestru rydych yn barod i ddechrau arni!

    Ffurflen Gais Cymraeg

    International Youth Day - P Thompson

    Ffurflen Gofyn am Dystysgrifau

    Cwblhewch ffurflen gais am dystysgrif – a'i hanfon i info@johnmuiraward.org. Rydym yn argymell eich bod yn caniatáu o leiaf 10 diwrnod gwaith i dderbyn eich tystysgrifau.

    Darperir tystysgrifau yn rhad ac am ddim, ond maent yn costio tua £1 i ni i’w cynhyrchu a’u postio. Ystyriwch, os gwelwch yn dda, roi rhywbeth yn ol trwy roi rhodd i’n Cronfa Gweithredu Gwyllt er mwyn cyfrannu at gost eich tystysgrif ac i gefnogi Gwobr John Muir.

    Ffurflen Gofyn am Dystysgrifau

Pine branches - David Lintern

Cysylltu

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda info@johnmuirtrust.org. Anfonwch holl ohebiaeth, ffurflenni cais a ffurflenni tystysgrifau yma.

Cliciwch yma