Skip to Content
29 Oct 2020

Nodiadau Maes: Harddwch arfordirol Cymru wyllt

Gyda Cymru yn mynd i gyfnod clo byr tan Dachwedd y 9fed, mae rheolwr datblygu Tom Hayek yn breuddwydio am ail ymweld a’r arfordir hardd

North Anglesey AON by Alun Morgan Owen

English

Tom Hayek: Yn Ymddiriedolaeth John Muir, yr ydym yn sôn yn aml am fanteision iechyd a lles a geir o dreulio amser amewn ardaloedd gwyllt, i mi mae holl ardal ein harfordir yn y DU yn cynnig 'manteision gwyllt' mewn ffordd na all unman arall wneud cystal.

Ar ôl astudio ym Mangor, mae gennyf atgofion melys o arfordir gwyllt Cymru sy'n cynnwys tair o bum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru.

Mae dynodiad AHNE yn cydnabod pwysigrwydd diogelu'r adnodd gwyllt allweddol hwn, gan helpu sicrhau bod y bywyd gwyllt, y dreftadaeth a’r tirwedd godidog yn cael ei warchod fel y gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau bendithion ein harfordiroedd gwyllt.

Gyda chyfyngiadau Covid-19 yn cyfyngu ar deithio i lawer yr hydref hwn, gofynnwyd i'r timau o’r AHNE lleol ddisgrifio'r arfordiroedd gwyllt gwych y maent yn gofalu amdanynt gan rannu eu hoff rannau.

Ynys Môn gan Alun Morgan Owen

Mae AHNE Ynys Môn yn cynnwys y rhan fwyaf o arfordir 201 cilomedr Ynys Môn (mae 50 cilomedr ohono hefyd wedi'i ddynodi'n Arfordir Treftadaeth). Mae arfordir Ynys Môn, gyda llawer ohono wedi'i ynysu, yn cyfrannu at apêl yr ynys. Mae clogwyni garw, cilfachau tywodlyd, corsydd, twyni, glannau cysgodol Afon Menai a llethrau gwyntog Mynydd Tŵr a Bodafon yn rhoi amrywiaeth trawiadol o olygfeydd.

Gan symud gyda’r cloc o Ynys Cybi oddi ar ochr orllewinol Ynys Môn, mae ardal ogleddol yr ynys wedi ei ddominyddu gan Fynydd Tŵr, clogwyni Ynys Lawd a chilfachau creigiog. Gan symud tuag at yr arfordir i’r dwyrain gyda'i gymysgedd o glogwyni calchfaen serth, traethau tywodlyd a thref hanesyddol Biwmares, cyn cyrraedd Afon Menai gyda ochrau coediog a golygfeydd draw at y tir mawr. Yn olaf, mae'r arfordir gorllewinol llai garw yn darparu ardaloedd eang o draethau a thwyni tywod sy’n boblogaidd gan deuluoedd a’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon dŵr.

Mae'r AHNE yn cynnwys llawer o gynefinoedd sydd â gwarchodaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol oherwydd eu gwerth i fyd natur; yn arbennig y rhostiroedd, clogwyni môr, twyni tywod a glannau creigiog.  Mae’n ardal arbennig i bobl sy'n caru bywyd gwyllt. Ar ddiwrnod da gallwch weld y fran goesgoch, morlo llwyd, llamhidydd, glöynnod byw gwahanol, ac i rai sydd yn sylwgar iawn, planhigion prin fel tafol y twyni.

Mae hanes diwylliannol Ynys Môn yn cychwyn o gylchoedd cerrig cynhanesyddol a siambrau claddu hyd at y cestyll, eglwysi a neuaddau canoloesol, mae’r Ynys yn gadarnle i'r Gymraeg, sy'n cael ei siarad gan dros 50 y cant o'i thrigolion.

Am fwy o wybodaeth ewch i

Gŵyr gan Chris Lindley

Arfordir dramatig Gŵyr yw un o'r prif resymau mai dyma'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf yn y DU a sefydlwyd yn 1956. Yn aml yn cael ei ddisgrifio fel 'bron yn ynys', mae'r penrhyn yn ymestyn allan i Fae Caerfyrddin ger Abertawe.

Mae daeareg amrywiol Gŵyr yn darparu amrywiaeth eang o olygfeydd ar hyd ei 38 milltir o arfordir gan gynnwys clogwyni calchfaen carboneraidd, twyni tywod eang a morfeydd gwyllt.

Mae traethau a baeau arfordir y de fel Port Eynon ac Oxwich yn mynd ardaloedd prysur yn yr haf, ond mae’r clogwyni calchfaen yn sicrhau y gallwch ddod o hyd i le eich hunain beth bynnag fo’r tymor. Mae'r tair milltir rhwng Overton a Bae Mewslade yn un o'r uchafbwyntiau, gyda chynefinoedd clogwyni a chynefinoedd arfordirol gydag olion o fryn gaerau ac olion cynhanesyddol eraill. Darganfuwyd esgyrn mewn ogof ger Paviland tua 33,000 oed - un o'r enghreifftiau cynharaf o seremoni gladdu yng Ngorllewin Ewrop.

I mi, fodd bynnag, arfordir tawelach y gogledd yw fy newis personol. Mae Bae Boughton yn cynnwys twyni tywyod, gydag adfail goleudy anhygoel pwynt Whitford yn dynodi peryg gwely’r mor ger aber afon Llwchwr, sydd yn bosib i’w gerdded gyda chynllunio gofalus ar lanw isel y gwanwyn. Mae'r ardal arbennig yma o'n harfordir yn gorffen wrth Whiteford gan droi yn 8 milltir o forfeydd ar hyd glannau gogleddol Gŵyr.

Am fwy o wybodaeth ewch i

Llŷn gan Bleddyn Prys Jones

Mae arfordir ysblennydd AHNE Llŷn yn amrywiol iawn gyda thraethau tywodlyd, cilfachau, ogofâu, porthladdoedd hanesyddol bach ac ynysoedd hudolus. Mae'r rhan fwyaf o'r arfordir hefyd o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau ac mae'r lefel ychwanegol yma o warchodaeth wedi helpu i ddiogelu cymunedau trawiadol o rywogaethau morol ochr yn ochr â rhywogaethau tirol, gan gynnwys y fran goesgoch sydd â chadarnle yn yr ardal ac yn ymddangos ar logo'r AHNE.

Wrth edrych i mewn i'r tir, gweler fryniau a mynyddoedd trawiadol gyda golygfeydd ysblennydd gan gynnwys bryngaer hynafol Tre'r Ceiri. Os ydych yn mentro allan ar ôl machlud, Pen Llŷn yw un o'r ardaloedd sydd â'r llygredd golau lleiaf yng Nghymru gyfan ac mae'n lle delfrydol i weld awyr y nos ar ei orau.

Mae nodweddion treftadaeth yn amlwg drwyddi draw gyda nodweddion hanesyddol ymhob man gan gynnwys eglwysi, capeli, ffynhonnau sanctaidd a siambrau claddu. Mae'r dreftadaeth bwysig yma yn mynd y tu hwnt i'r adeiladau ac mae'r ardal hon yn un o gadarnleoedd y Gymraeg – gyda bron i 72 y cant o'r boblogaeth yn siarad yr iaith.

Am fwy o wybodaeth ewch i