Buddsoddi yn nyfodol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu yn darparu cyllid hanfodol i bob ysgol yng Nghymru gael y cyfle i gysylltu, mwynhau a gofalu am ardaloedd gwyllt drwy ein Gwobr.
Gan adeiladu ar brosiect peilot llwyddiannus yn 2018-2019, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cytuno i gefnogi dros 13,000 o bobl i gysylltu ag ardaloedd gwyllt Cymru ac i weithredu dros natur. Bydd yncyfrannu at ariannu prosiect tair blynedd drwy fuddsoddi £220,000 – 50 y cant o'r cyfanswm sydd ei angen. Bydd y swm yn ein helpu i ddarparu'r fframwaith a'r gallu i gefnogi ein rhwydwaith cynyddol o ysgolion, arweinwyr, grwpiau cymunedol a theuluoedd a fydd yn ymgysylltu â Gwobr John Muir drwy gydol y prosiect a thu hwnt.
Byddwn yn gweithredu yn rhanbarthol a theilwra adnoddau gan alluuogi pob ysgol yng Nghymru i dderbyn gwybodaeth, cyngor ac arweiniad o ansawdd uchel gan ein tîm. Bydd hefyd yn galluogi addysgwyr i gael mynediad at gyfres o adnoddau Cymraeg ac adnoddau sy'n canolbwyntio ar y cwricwlwm yn rhad ac am ddim, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi a datblygu, fel y gallant gefnogi pobl ifanc i gysylltu ag ardaloedd gwyllt Chymru a gweithredu dros natur.
Dywedodd Sue Williams, Prif Yngynhorydd Iechyd, Addysg ac dnoddau Naturiol, CNC: “Mae Gwobr John Muir yn ffordd gost-effeithiol i Cyfoeth Naturiol Cymru gefnogi cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu gyda natur mewn fforth ystyrlon ar raddfa eang ledled Cymru. Mae'r Wobr yn agored ac addas i amrywiaeth o gynulleidfaoedd ac mae gan Ymddiriedolaeth John Muir brofiad o weithio gyda grwpiau sy'n aml yn cael eu tangynrychioli ym maes cadwraeth natur. Mae llawer o elusennau, ysgolion a busnesau bach yng Nghymru yn elwa o allu cael mynediad am ddim i'r Wobr ac rydym yn falch iawn o allu cefnogi hyn"
Dywedodd Phil Stubbington, Rheolwr Gwobr John Muir Cymru a Llogr: “Gellid dadlau bod Gwobr John Muir yn bwysicach nag erioed. Mae'r annhegwch o ran mynediad i fannau gwyrdd wedi'i ddogfennu'n dda ac mae'r argyfwng iechyd diweddar wedi dwysáu'r rhaniad hwn ymhellach. Amcangyfrifir y bydd dros ddwy filiwn o aelwydydd (ledled y DU) wedi profi amryw o gyfnodau clo heb erddi neu fynediadiI fannau. Yn dilyn y cyfnod hwn o bryder ac ansicrwydd, mae angen manteision iechyd a lles natur yn fwy nag erioed. Yn anffodus, y rhai sydd angen llesiant naturiol byd natur yw’r rhai sydd yn lleiaf tebygol o allu cael gafael arno. Ein cenhadaeth yw cael gwared ar rwystrau a chefnogi cymaint o bobl â phosibl i gael mynediad i fannau naturiol.”
"Wrth i’r ysgolion yn baradoi I ail aor yn raddol, rydym yn clywed gan athrawon sy’n chwilio am ffyrdd o ddarparu ar gyfer anghenion plant sy'n delio ag effeithiau'r cyfnod heriol hwn. Mae athrawon yn awyddus i ddatblygu 'cwricwlwm adfer' er mwyn helpu plant pryderus ac ailadeiladu sgiliau cymdeithasol, yn ogystal â pharatoi ar gyfer dyfodiad y cwricwlwm newydd. Er hwylustod cadw pellter cymdeithasol mae llawer o athrawon yn awyddus i fynd â gweithgareddau y tu allan, weithiau am y tro cyntaf. Mae gennym brofiad o gefnogi'r rhai sy'n newydd i arwain gweithgareddau awyr agored ac mae'r Wobr yn cynnig ffordd hyblyg o annog archwilio yn yr awyr agored, sy'n addas ar gyfer hyd yn oed yr ardaloedd gwyrdd lleiaf."
- Dysgwch fwy am Wobr John Muir a chyfleoedd yn eich ardal chi yng Nghymru drwy ymweld â www.johnmuiraward.org neu cysylltwch trwy ebostio wales@johnmuiraward.org
Photo courtesy of Visit Wales