Ailddylunio’r Wobr
Cryfhau ein cynnig ymgysylltu: helpwch ni i ailddylunio Gwobr John Muir ar gyfer pobl a lleoedd gwyllt.
Drwy ein gwaith ymgysylltu, ein nod yw ymestyn ein cyrraedd i fwy o bobl a chymunedau ledled y DU i helpu i godi ymwybyddiaeth, profiadau a dealltwriaeth o’r llawer o fanteision amrywiol sy’n deillio o gysylltiad â lleoedd gwyllt.
Po fwyaf o bobl sy’n gwerthfawrogi lleoedd gwyllt ac yn deall rhai o’r bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu, y mwyaf y byddant yn ymuno â ni ar y daith i eirioli dros eu hamddiffyniad. Mae lleoedd gwyllt ar gyfer pawb, a gall pawb helpu i’w hamddiffyn.
Mae Gwobr John Muir yn dal i fod yn rhan allweddol ar ein gwaith ymgysylltu, gan greu partneriaethau, cysylltiadau a chyrhaeddiad. I lawer, dyma’r cyflwyniad cyntaf i’r cysyniad o leoedd gwyllt, a dechreuad cysylltiad hanfodol â natur.
Yn dilyn adolygiad o’n gwaith ymgysylltu a datblygiad ein strategaeth newydd, rydyn ni eisiau sicrhau bod Gwobr John Muir yn cael dyfodol disglair mewn byd sy’n newid yn sydyn.
Gallwch ein helpu i wella sut gall symud ymlaen drwy’r Wobr ysbrydoli pobl tuag at angerdd gydol oes i brofi, mwynhau, amddiffyn a gwella lleoedd gwyllt.
Cymryd rhan
Rydym yn gwahodd cyfranogwyr, darparwyr, partneriaid, cefnogwyr a chyllidwyr blaenorol a phresennol, i’n helpu i greu’r fersiwn orau bosibl o’r Wobr ar ei newydd wedd.
Gallai hyn helpu’r Ymddiriedolaeth drwy:
- Cyd-greu a pheilota Gwobr ar ei newydd wedd
- Rhannu mewnwelediadau a phrofiad ar fesur effeithiau (yn enwedig cysylltedd â natur, iechyd a lles, gweithredu ac eirioli dros leoedd gwyllt)
- Cyfeirio neu gynnig cymorth cyllid i’n helpu i brofi, treialu a datblygu Gwobr ar ei newydd wedd
Edrychwch drwy ein Cwestiynau Cyffredin i ddysgu mwy am y rhesymau dros ailddylunio’r Wobr.
Cysylltwch â ni i roi gwybod sut gallwch ein helpu i ailddylunio’r Wobr, a/neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.